Cysylltwch

cysylltwch â ni

07426 089 993

info@stratafloridatrust.org

Ysgol Maes Archeoleg

07394 468 805

info@stratafloridatrust.org

(Rhif Elusen Gofrestredig: 1117469; Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, rhif 5862222)

© 2019 designed by zodshopdesign.co.uk

ThePrincesFoundation web.jpg
UWTSD Logo_web.jpg
SB Black and Purple ACT web.jpg
CCC logo new.jpg
Cynnal Y Cardi logo new.jpg
Arch skills logo.jpg
WG EU logo new.jpg
EAFRD logo new.jpg
Cambrian Mountains logo.jpg
BGH.png

Eicon Cymreig mewn Tirwedd Gysegredig

Mae Ystrad Fflur yn fan cyfareddol ym mherfeddwlad orllewinol Cymru yng nghesail Mynyddoedd Cambria. Mynachlog Sistersaidd ydoedd ar un tro mewn tirwedd sydd wedi bod o bwysigrwydd ysbrydol dirfawr i bobl Cymru ers mil o flynyddoedd.

YnglYn a Ystrad Fflur

Beth ydyw

Mae adfeilion gwarchodedig hen eglwys yr Abaty a rhan o’r clwystai yng ngofal Cadw, sef asiantaeth treftadaeth Llywodraeth Cymru, a gall y cyhoedd ymweld ag ef o’r Pasg hyd at yr Hydref. Mewn gwirionedd, dim ond darn bach o Abaty llawer mwy o faint yw’r gweddillion hyn oedd yn ymestyn dros arwynebedd o 126 erw lle mae’r gweddill wedi goroesi dan ddaear fel archeoleg wedi’i chadw’n dda.

 

Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wedi prynu’r cymhlyg o adeiladau fferm hanesyddol, sy’n dwyn yr enw Mynachlog Fawr, ac sy’n sefyll yn syth i gyfeiriad y dde o’r gofadail. Mae’n cynnwys tŷ a arferai fod yn gartref i deulu bonedd y Stedmans, a oedd yn berchen ar safle’r Abaty ar ôl Diddymiad 1539. Yn nes ymlaen, daeth yn fferm a redwyd gan y teulu Arch.

 

Saif y rhain i gyd mewn tirwedd ryfeddol o hanesyddol sy’n cynnwys gweddillion helaeth o weithgarwch dynol sy’n cynnwys gwaith mynachod yr Abaty ei hun. Mae llwybrau troed a theithiau cerdded treftadaeth sy’n tywys yr ymwelydd allan i goetir, ar hyd glannau afonydd, i fyny’r mynyddoedd ac ar ymyl Cors mawr Caron.

 

 

 

 

Lle mae’r abaty

Saif adfeilion yr Abaty ychydig i gyfeiriad y dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron yng Ngheredigion, ac ar ymyl gorllewinol Mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru. Cod post: SY25 6ES.  Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans: SN 7467 6569. 

 

 

 

 

 

 

Pryd oedd hynny

Mae hanes byr yn dweud wrthym mai mynachlog Sistersaidd fawr ydoedd ar un tro mewn tirwedd o bwysigrwydd ysbrydol dirfawr i bobl Cymru ers miloedd o flynyddoedd. Mae hanes hwy’n dangos bod yr hanes yn ymestyn yn ôl yn ddwfn i gynhanes ac yn parhau fel stori o ystadau a chymunedau ffermio Cymreig hyd at heddiw.

 

Dewisodd y Sistersiaid y lle er mwyn addoli a myfyrio Duw oherwydd ei unigrwydd mewn dyffryn amgaeëdig hardd yng nghesail Mynyddoedd Cambria. Roedd yn ddarn hynod gysegredig o dirwedd a ddewiswyd ers yr Oes Efydd fel lle o barch arbennig ac mae’n debygol y bu mynachlog yma yn y canrifoedd cyn y Sistersiaid. Mae’n parhau i fod yn lle gyda phresenoldeb ysbrydol amlwg.

Gweithiodd y Sistersiaid yn galed fan hyn ar y busnes ymarferol o wella’r tir ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â manteisio ar gyfoeth mwynol enfawr y mynyddoedd. Saif olion o hyn o gwmpas y safle, gan gynnwys y coetir a blannwyd gan y mynachod eu hunain. Ond efallai mai eu hetifedd mwyaf parhaol oedd y rhan ddirfawr a chwaraeon nhw wrth anfarwoli ar femrwn ac yn yr iaith Gymraeg ddiwylliant hynafol Cymru, ei mythau, traddodiadau, hanes a llenyddiaeth.

 

Beth ydym yn ei wneud

Mewn partneriaeth â’r Prince’s Foundation, mae’r Ymddiriedolaeth yn gwarchod yr adeiladau ac yn eu troi nhw’n ddefnydd tymor hir fel Canolfan i ymwelwyr, addysg, ymchwil ac encilio.

Mae Ystrad Fflur hefyd yn storfa ddirfawr o weddillion archeolegol ar hyd ei thirweddau. Mae Prosiect Ymchwil Ystrad Fflur wedi bod yn archwilio’r archif gwych hyn trwy arolygu, cloddio ac astudio dogfennau. Bydd hyn yn parhau gydag Ysgol Haf Ystrad Fflur lle gallwch ymuno a’n helpu ni i adennill hanes hyd yn oed cyfoethocach.