Cysylltwch

cysylltwch â ni

07426 089 993

info@stratafloridatrust.org

Ysgol Maes Archeoleg

07394 468 805

info@stratafloridatrust.org

(Rhif Elusen Gofrestredig: 1117469; Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, rhif 5862222)

© 2019 designed by zodshopdesign.co.uk

ThePrincesFoundation web.jpg
UWTSD Logo_web.jpg
SB Black and Purple ACT web.jpg
CCC logo new.jpg
Cynnal Y Cardi logo new.jpg
Arch skills logo.jpg
WG EU logo new.jpg
EAFRD logo new.jpg
Cambrian Mountains logo.jpg
BGH.png

Eicon Cymreig mewn Tirwedd Gysegredig 

Mae Ystrad Fflur yn fan cyfareddol ym mherfeddwlad orllewinol Cymru yng nghesail Mynyddoedd Cambria. Mynachlog Sistersaidd ydoedd ar un tro mewn tirwedd sydd wedi bod o bwysigrwydd ysbrydol dirfawr i bobl Cymru ers mil o flynyddoedd.

strata florida ~ ystrad fflur

amdanom ni...

Rydym bellach yng ngham Cadwraeth a Datblygu’r adeiladau hanesyddol yn Ystrad Fflur a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur. Cynhelir hwn trwy bartneriaeth strategol gyda’r Prince’s Foundation a fydd yn cwblhau’r rhaglen waith hon. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd Canolfan Ystrad Fflur yn defnyddio’r adeiladau ar gyfer ystod eang o weithgareddau a fydd yn ei chynnal yn ariannol fel menter tymor hir yn yr economi ranbarthol. Mae partneriaid eraill ac amrywiaeth o gyllidwyr cyhoeddus a phreifat yn ein helpu ni ar hyd y ffordd mewn amryw ffyrdd. Yn gyfochrog â hyn i gyd mae Prosiect Ymchwil Ystrad Fflur, sydd hefyd yn rhan o’r rhaglen Sacred Landscapes a ariennir gan AHRC.

 

Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur

(Rhif Elusen Gofrestredig: 1117469; Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, rhif 5862222)

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2016 gyda’r nod cyntaf o gaffael ac adfer y cymhlyg o adeiladau hanesyddol ym Mynachlog Fawr. Fe’i cafwyd yn 2016 ac mae’r gwaith cadwraeth newydd ddechrau. Yr ail nod yw datblygu’r adeiladau a’r hyn sydd o’i amgylch yn Ganolfan sy’n dathlu hanes, diwylliant ac amgylchedd Cymru mewn un o’i hen berfeddwledydd. Bydd hyn yn cael ei wneud fel menter ddielw ond economaidd gynaliadwy a ymgorfforwyd yn yr economi leol a rhanbarthol. Mae’r gweithgareddau a fydd yn gweithio tuag at hyn wedi dechrau, llawer ohono ar y cyd â’r gymuned a busnesau lleol.

 

Dyma’r Ymddiriedolwyr:

Yr Athro Emeritws David Austin (Cadeirydd), yr Athro Roger Earis (Ysgrifennydd); Richard Broyd; y Cynghorydd Ifan Davies; Y Gwir Barchedig. Wyn Evans; Gaenor Parry; yr Athro Dafydd Johnston; yr Athro Elan Closs Stephens; Michael Taylor; John Wildig; Dr Eurwyn Wiliam

Dyma Swyddogion yr Ymddiriedolaeth:

Nick Foot (Trysorydd); Lowri Goss (Rheolwr Prosiectau); Nathan Goss (Rheolwr Cadwraeth Adeiladau); Helen Whitear (Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned)

Dyma Ymgynghorwyr Arbennig yr Ymddiriedolaeth:

Michael Norman (Grantiau a Datblygu);

Yr Athro John Darlington (Prif Swyddog Gweithredol, World Heritage Fund Britain)

 

Y bartneriaeth strategol gyda’r Prince’s Foundation Strategic Partnership with the PF

 

Mae’r Prince’s Foundation yn gweithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur i helpu trawsnewid Ystrad Fflur yn gyrchfan bywiog i ymwelwyr, yn ganolfan ar gyfer dysgu, ymgysylltu ac yn werthfawrogiad o dreftadaeth, hunaniaeth, crefft a diwylliant Cymru ac yn ganolfan ar gyfer hyfforddiant treftadaeth a sgiliau archeolegol. 

Nod y Bartneriaeth fydd cyflawni:

  • Cadwraeth adeiladau hanesyddol Mynachlog Fawr yn y traddodiad gwerinol lleol.

  • Creu cynllun rheoli i ddangos sut bydd y Ganolfan yn eistedd yn gydymdeimladol yn ei lleoliad ac yn gweithredu fel lle wedi’i adfywio er lles y cyhoedd.

  • Dynodi busnes ariannol gynaliadwy a chynllun gweithgareddau er mwyn i’r Ganolfan newydd wneud cyfraniad parhaol at economi leol, ranbarthol a chenedlaethol Cymru.

  • Dyluniad ac adnewyddiad lleoedd mewnol ac allanol y Ganolfan i wasanaethu’r swyddogaethau a ddynodwyd yn y cynllunio.

  • Cydweithredu wrth godi arian am y gwaith cyfalaf angenrheidiol i greu’r Ganolfan.

     

Caiff y bartneriaeth ei rhedeg gan grŵp llywio.

.

The Prince’s Foundation

 

Bu gan Lywydd Sefydlu’r Prince’s Foundation, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ddiddordeb hir yng ngoroesiad y lle hudol hwn ac mae’r prosiect yn rhan o fenter adfywio cymunedol arbennig, 7 for 70, a lansiwyd yn 2018 i ddathlu pen-blwydd Tywysog Cymru yn 70 oed.

  •  Mae’r Prince’s Foundation yn gweithio gyda chymunedau lleol i achub treftadaeth a hyrwyddo diwylliant lleol trwy greu defnyddiau priodol a chynaliadwy ar gyfer adeiladau a safleoedd hanesyddol.

  • Mae gwaith The Prince’s Foundation yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn helpu wrth adeiladu a chynnal cymunedau lleol.

  • Mae prosiectau’r Prince’s Foundation yn adlewyrchu diddordebau a dyheadau Tywysog Cymru ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, yr amgylchedd, lles a chymuned.

  • Mae menter 7 for 70 yn adeiladu ar y gwaith allgymorth cymunedol llwyddiannus a gynhaliwyd yn Dumfries House yn Nwyrain Ayrshire – adferiad Neuadd Dref New Cumnock yn 2016 ac ailadeiladu pwll nofio awyr agored New Cumnock yn 2017. Cwblhawyd y ddau brosiect ar y cyd â’r gymuned leol mewn ymateb i apêl am gymorth i arbed y ddau ased lleol annwyl iawn hyn.

 
 
 

Partneriaid Eraill

Mae gennym ddau bartner allweddol sy’n hanfodol i ddatblygiadau ar y safle ac sy’n cael eu cynrychioli ar Grŵp Llywio Ystrad Fflur:

  • Cadw sy’n rhedeg, fel cangen o Lywodraeth Cymru, y gofadail gwarchodaeth sy’n cynnwys Eglwys yr Abaty a rhan o’i glwystai sy’n agored i’r cyhoedd am ychydig dros hanner y flwyddyn. Rydym yn trafod gyda Cadw i alluogi ar gyfer ymweld â’r safle (y gofadail a’r adeiladau hanesyddol) fel un profiad.

  • Cyngor Sir Ceredigion sy’n edrych i helpu a chynghori’r bartneriaeth wrth ddatblygu’r Ganolfan. Ei bryder penodol yw hyrwyddo adfywiad economaidd mewn tirwedd wledig ucheldirol yn ei hanfod.

 

Yn gweithio’n agos gyda ni hefyd mae:

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef curadur llawer o’n llenyddiaeth Gymraeg gynnar, y cafodd rhywfaint ohoni ei chreu yn Ystrad Fflur. Yn ogystal, mae’n lletya Cwpan Nanteos, gwrthrych o’r oesoedd canol sy’n gysylltiedig â’r Abaty ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi caniatâd caredig i’r Ymddiriedolaeth ei fenthyca am ddiwrnod neu ddau bob blwyddyn.

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n ein cynorthwyo ni i adeiladu a dilysu’n cyrsiau addysgu a hyfforddiant a fydd yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Mae ganddi rôl hefyd wrth redeg y Prosiect Tirweddau Cysegredig.

  • Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi ein helpu’n sylweddol i addysgu, ein rhaglenni ymchwil a datblygu trwy ei gofnodion cenedlaethol a’i arbenigedd sylweddol mewn arolygu ac archifo. Bydd hyn yn parhau wrth i weithgareddau’r Ganolfan gynyddu.

  • Mae Amgueddfa Cymru’n edrych i weithio gyda ni ar y deunydd a’r archeoleg perthnasol sy’n gysylltiedig â’r safle. Mae wedi lletya ers amser hir wrthrychau a darnau pensaernïol  a ganfuwyd yng nghloddiadau diwedd y 19eg ganrif.

 

Ar raddfa fwy lleol, rydym yn gweithio’n agos gyda:

  • Y gymuned ei hun trwy Grŵp Cyswllt â’r Gymuned, sy’n cael ei chadeirio gan y Cynghorydd Ifan Davies gyda 15 cynrychiolydd ar draws ardal Pontrhydfendigaid.

  • Cyngor Cymuned Ystrad Fflur sy’n cynrychioli Pontrhydfendigaid a’i hardal.

  • Ymddiriedolaeth Mynwentydd Pantyfedwen Ystrad Fflur sy’n gweinyddu’r tir claddu hynafol, sydd ei hun yn rhan annatod o stori gynnar yr Abaty.

  • Grŵp Coetir Cymunedol Coed y Bont sy’n rhedeg ardal amwynder cyhoeddus newydd ei chreu i gerddwyr a naturiaethwyr sydd wedi’i gosod dros un o hen gorsydd torri mawn yr Abaty.

  •  Yr Eglwys yng Nghymru sy’n etifeddu traddodiad Cristnogol gwych addoli cysegredig Ystrad Fflur ac mae’n ein cefnogi ac yn ein helpu ni, er enghraifft, pan fyddwn yn benthyg yr eglwys ar gyfer digwyddiadau.

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhedeg blociau mawr o goedwigaeth a choetir nesaf at ddeiliadaeth yr Ymddiriedolaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda ni ar ddefnydd a mynediad cyhoeddus cynyddol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu am Gors Caron hefyd, cors gyfagos sydd â statws cadwraeth ryngwladol ac sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol. Roedd hwn yn eiddo i’r Abaty ar un tro.

Cyllidwyr

Mae unigolion preifat a chyrff cyhoeddus wedi ein helpu ni ar hyd y ffordd wrth ddechrau ar y prosiect hwn ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar iddynt. Mae gormod i’w nodi fan hyn ond gellir dod o hyd i fwy rywle arall ar y wefan. Rydym am gydnabod yn benodol: Cyngor Sir Ceredigion, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru; y World Monuments Fund; y Laura Ashley Family Foundation.

 

Rhaid nodi dau brosiect cyfredol yn benodol:

  • Caiff prosiect Camau Bach ei ariannu’n rhannol gan gynllun LEADER Cynnal y Cardi yng Ngheredigion trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r prosiect hwn wedi’n galluogi ni i gael swydd Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned am ddwy flynedd.

  • Prosiect Beudy Hub, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig trwy Raglen Cymunedau Gwledig-Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ceisia’r prosiect adfer a datblygu un o’n hadeiladau hanesyddol rhestredig. Bydd hwn yn dod yn safle parhaol cyntaf ar y safle yn nes ymlaen yn 2019.

 
 

Prosiect Ymchwil Ystrad Fflur

Dyma ran oes hiraf prosiect cyfan Ystrad Fflur, dan gyfarwyddyd yr Athro David Austin ac a gynorthwywyd yn bennaf gan Dr Jemma Bezant a Quentin Drew tan 2015. Dechreuodd ym 1999 fel ysgol maes archeoleg flynyddol i israddedigion o’r hyn oedd yn cael ei galw’n Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan (PCYDDS erbyn hyn). Er gwaetha dyfodiad Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 a’n cadwodd allan o’r maes tan 2004, mae ymchwil wedi meithrin yn raddol fwy o ddealltwriaeth o safle’r Abaty a’i berfeddwlad ehangach. Gan mai ein prif fwriad oedd cadarnhau faint o archeoleg oedd wedi goroesi (symiau helaeth) a pha mor dda yr oedd y gweddillion wedi’u cadw (sylweddol), nid ydym wedi cloddio safleoedd mawr iawn nac yn ddwfn iawn, ac eithrio Porthdy Mawr yr Abaty a arferai sefyll rhwng Cyffiniau Mewnol ac Allanol y fynachlog. Rydym wedi ymgymryd ag arolwg a geoffiseg graddfa fawr yn y caeau cyfagos hefyd ac ymchwil ar y dogfennau’n ymwneud â’r Abaty a’i ystadau dilynol.

Y Prosiect Tirweddau Cysegredig

Mae Tirweddau Cysegredig yn brosiect mawr newydd sy’n dechrau ym mis Ionawr 2019 a ariennir gan grant mawr gan Gyngor y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y DU.

 

Y teitl llawn yw: tirweddau cysegredig mynachlogydd yr oesoedd canol: astudiaeth ryngddisgyblaethol o ystyr wedi’i ymgorffori mewn lle a chynhyrchiant’. Bydd y gwaith yn edrych ar sut ffurfiwyd y byd o gwmpas mynachlogydd i adlewyrchu’r cysegredig a deall sut gwnaeth y mynachod a’u partneriaid ddylanwadu a mynegi syniadau deallusol ac emosiynol am natur a chynhyrchiant y tir. Wrth wraidd y prosiect, mae astudiaethau cymharol o dirweddau hanesyddol dau abaty Sistersaidd Cymreig, sef Ystrad Fflur a Valle Crucis ac un clwstwr o fynachlogydd yn y tirweddau coed leim ar ochr ogleddol Afon Witham yn Swydd Lincoln. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2019 a bydd yn parhau tan ddiwedd 2022.

 

Y Prif Ymchwilydd yw’r Athro David Austin (PCYDDS) gyda’r Cydymchwilwyr, yr Athro Janet Burton (PCYDDS), yr Athro Emilia Jamroziak (Prifysgol Leeds) a’r Athro Ann Parry Owen (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) a’r Prif Bartneriaid Ymchwil yw’r Athro David Stocker (Prifysgol Leeds), Paul Everson (Prifysgol Keele) a’r Athro Howard Williams (Prifysgol Caer).  Yr ymchwilwyr ôl-ddoethurol yw Dr Jemma Bezant (arolygu a thirweddau hanesyddol) a Dr Jenny Day (llenyddiaeth yr oesoedd canol). Ariannwyd y prosiect hefyd dan fenter ledled y DU sy’n astudio dyfodol defnydd tir yn yr oes ar ôl Brexit ac ar ôl cymorthdaliadau