Cysylltwch

cysylltwch â ni

07426 089 993

info@stratafloridatrust.org

Ysgol Maes Archeoleg

07394 468 805

info@stratafloridatrust.org

(Rhif Elusen Gofrestredig: 1117469; Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, rhif 5862222)

© 2019 designed by zodshopdesign.co.uk

ThePrincesFoundation web.jpg
UWTSD Logo_web.jpg
SB Black and Purple ACT web.jpg
CCC logo new.jpg
Cynnal Y Cardi logo new.jpg
Arch skills logo.jpg
WG EU logo new.jpg
EAFRD logo new.jpg
Cambrian Mountains logo.jpg
BGH.png

Hanes Ystrad Fflur

Canfuwyd y bu Abaty Ystrad Fflur yn sefydliad gwych o ran gwasanaethu pobl frodorol Cymru a Christnogaeth y Gorllewin trwy ei aelodaeth o’r Urdd Sistersaidd pan-Ewropeaidd o fynachlogydd. 

strata florida ~ ystrad fflur

hanes

Canfuwyd y bu Abaty Ystrad Fflur yn sefydliad gwych o ran gwasanaethu pobl frodorol Cymru a Christnogaeth y Gorllewin trwy ei haelodaeth o’r Urdd Sistersaidd pan-Ewropeaidd o fynachlogydd. Fe’i sefydlwyd am y tro cyntaf ym 1164 ac yna fe’i hailsefydlwyd gan dywysog grymus de-orllewin Cymru, sef Arglwydd Rhys o’r Deheubarth. Trawsnewidiodd yr abaty hwn a’i chwaer abatai gyrchfan diwylliannol Cymru a’i hiaith er gwaetha’r ffyrdd yn dod i mewn o Loegr yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol. Ymddengys bod yr Abaty wedi’i sefydlu’n fwriadol mewn tirwedd sydd eisoes yn llawn arwyddocâd cysegredig o adeg yr ymsefydlwyr parhaol cynharaf ar y tir. Wedyn, ar ôl diwedd yr Abaty yn ystod diddymiad mynachlogydd Harri VIII ym 1539, daeth tir ac adeiladau’r Abaty i ddwylo bonedd seciwlar a ffermwyr.  Mae hyn oll wedi gadael etifeddiaeth archeolegol helaeth o adfeilion y stori 4000 o flynyddoedd o hyd hon yn y tirweddau hanesyddol sy’n olrhain stori dyfalbarhad ymhlith mynyddoedd Cymru.

1. Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur (1164-1539)

Sefydlwyd Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ym 1164 yn y lle cyntaf pan roddodd marchog Normanaidd, Robert Fitzstephen, diroedd yng nghanolbarth Ceredigion i fynachod Abaty Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin. Yn y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd y Normaniaid allan o Geredigion gan Rhys ap Gruffudd, Arglwydd Dinefwr a Thywysog y Deheubarth a ddaeth yn brif gymwynaswr ar yr Abaty. Credir bod yr Abaty wedi cael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn Henfynachlog , sydd heddiw’n fferm rhyw 2 gilometr i gyfeiriad y de-orllewin o’r safle presennol.

Ym 1184, ymddengys bod Rhys wedi cynyddu ei grantiau ac wedi annog y mynachod i adeiladu Abaty mwy o faint lle saif ei adfeilion heddiw. Ym 1201, fe’i cysegrwyd a sefydlodd enw da’n gyflym iawn iddo’i hun fel canolfan bywyd diwylliannol a gwleidyddol Gymreig, efallai dyma rywbeth yr oedd Rhys ei hun wedi’i fwriadu. Mae’n bosibl hefyd fod ei enw wedi’i adeiladu ar fynachlog gynharach, cyn-Normanaidd ar y safle.

Y 13eg ganrif oedd anterth yr Abaty ac ym 1238 defnyddiodd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), tywysog Gwynedd a Thywysog cyntaf Cymru, yr Abaty fel lleoliad ar gyfer cyfarfod pwysig a gynhaliwyd i atgyfnerthu ei awdurdod ef a’i fab dros dywysogion ac arglwyddi brodorol eraill Cymru.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd Cymru dan reolaeth Edward I o Loegr a phylodd dylanwad Ystrad Fflur. Fodd bynnag, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddiwedd y 14eg ganrif ac ar ddechrau’r 15fed ganrif, ymddengys bod mynachod yr Abaty wedi cefnogi’r gwrthryfel. O ganlyniad, lletywyd rhai o fyddin Lloegr yn yr Abaty ac fe’i difrodwyd yn helaeth. Ni wellodd fyth o’r sioc hon ac erbyn adeg y Diddymiad ym 1539, nid oedd llawer ar ôl ac roedd hyd yn oed hwnnw mewn cyflwr enbyd.

2. Beth ddaeth ar ôl yr Abaty (1539 i nawr)

Ar ôl i’r Abaty gau, aeth y safle a’r hen diroedd i ddwylo teuluoedd y bonedd yn y pen draw, sef teulu’r Steadmans ac ymddengys iddynt greu plasty o weddillion Ffreutur yr Abaty. Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd yr ystâd yn nwylo’r teulu Powell o Nanteos.

Yn y 1880au, cloddiwyd safle’r hen Abaty gan Stephen Williams a’r hyn a ddatgelwyd yn sylweddol ganddo sydd bellach yng ngofal Cadw ac mae modd ymweld ag ef fel cofeb. Yn 2004, dechreuodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant brosiect tymor hir dan gyfarwyddiaeth yr Athro David Austin i ddeall mwy am yr Abaty a’i dirwedd hanesyddol. Mae cynnwys y dudalen we hon yn seiliedig ar y gwaith hwnnw.

3. Beth ddigwyddodd cyn yr Abaty

(oddeutu 2000 C.O Gyffredin i 1164)

Pan grëwyd yr Abaty Sistersaidd, roedd y lle eisoes yn lleoliad arwyddocaol ac ymddengys bod y dewis o ran ble i roi’r Abaty wedi’i ailsefydlu ym 1184 yn defnyddio’n gydwybodol ystyron a hanes blaenorol y dyffryn bach hwn.

 

Yn benodol, rydym yn dechrau cael tystiolaeth fod yr eglwys newydd wedi’i gosod dros ac o gwmpas ffynnon sanctaidd a fodolai cyn hynny a oedd wedi’i amgylchynu gan adeiladau cynnar. Efallai y bu hon yn fynachlog Geltaidd o’r Oesoedd Tywyll, Cyn-Sistersaidd a gysegrwyd o bosibl i Sant Cynfelin a saint Ceredigion. Yn y cyffiniau hefyd mae’n bosibl yr oedd preswylfa frenhinol o frenhinoedd a thywysogion cynnar Ceredigion, a enwyd ym 1164 fel Lispennard neu Llys Penardd, ‘Llys Brenhinol Penardd’, sef enw’r cwmwd hynafol y saif Ystrad Fflur arno.

 

Mae’r ffynnon sanctaidd yn un o bedair mewn llinell i fyny dyffryn Glasffrwd i gyfeiriad de-ddwyreiniol yr Abaty. Ar flaen y dyffryn, ym Mlaenglasffrwd, mae cymhlyg mawr o gofebion sy’n dyddio o ddechrau’r Oes Efydd neu hyd yn oed diwedd yr Oes Neolithig (2500 – 2000 OC). Mae’n cynnwys carneddau, aliniadau cerrig a strwythurau eraill, a’r cyfan yn eistedd gyda’i gilydd mewn grŵp lle mae olion traciau cul suddedig yn rhedeg rhyngddynt gan arwain at ymyl yr hyn sydd bellach yn gors mawn, ond a arferai fod yn llyn bach 4000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddengys  bod y dyffryn cyfan wedi ymroi i fawredd dŵr a’i ysbrydion – Dyffryn Cysegredig.

 

Gallai hyn esbonio pam fod dwy fryngaer o’r Oes Haearn ar ben gorllewinol y dyffryn wrth ddiwedd cefnau sy’n dod i lawr o Fynyddoedd Cambria, ac yn ffurfio math o borth. Yr un mwyaf gogleddol a mwyaf o faint o’r ddau yw Pen-y-bannau ac mae’r llall wedi’i enwi ar ôl y fferm gyfagos, Gilfach-y-dwn-fawr.

4. Y Dirwedd Hanesyddol (pob cyfnod)

Yn goroesi o amgylch safle’r Abaty mae nifer ddirfawr o gloddweithiau a hen adeiladau sy’n rhoi tystiolaeth o hanes hir o ddefnydd tir ac anheddiad dynol. Ynghyd â thystiolaeth o hen fapiau, enwau lleoedd a dogfennau, gallwn ailadeiladu bydoedd lle’r oedd pobl y gorffennol yn byw. Cynorthwyir hyn yn sylweddol trwy astudio dilyniannau paill sydd wedi’u maglu mewn croniadau o figwyn yng Nghors Caron sy’n rhoi hanes botanegol y 12000 o flynyddoedd diwethaf ers i’r llenni iâ gilio ar ddechrau’n rhyng-gyfnod cynnes presennol.

 

WRydym yn ymgymryd â’n hastudiaethau mewn saith prif raddfa o gydraniad gofodol:

  1. Strwythurau unigol a nodweddion archeolegol

  2. Ardal cyffiniau blaenorol yr Abaty, o ryw 120 neu’n rhagor o erwau.

  3. Perfeddwlad uniongyrchol yr Abaty o Bontrhydfendigaid i Hafod Newydd. Galwn yr ardal hon yn Y Filltir Sgwâr.

  4. Dyffryn Teifi Uchaf o Dregaron yn y de i Ysbyty Ystwyth yn y gogledd, sydd â Chors Caron yn y canol.

  5. Mae Ardal Ystrad Fflur oddeutu 400 cilometr sgwâr o ganolbarth Cymru lle’r oedd Ystrad Fflur yn dal ei holl dir, o arfordir Bae Ceredigion i Raeadr Gwy, ac o Fachynlleth i flaenddyfroedd afon Tywi yn Rhandirmwyn.

  6. Mae hyn i gyd yn cael ei astudio yng nghyd-destunau ehangach Pura Wallia, ucheldiroedd Cymru a barhaodd yn nwylo tywysogion Cymru hyd at 1284.

  7. Ar draws Ewrop ble bynnag y sefydlodd y Sistersiaid eu Habatai.