Cysylltwch

cysylltwch â ni

07426 089 993

info@stratafloridatrust.org

Ysgol Maes Archeoleg

07394 468 805

info@stratafloridatrust.org

(Rhif Elusen Gofrestredig: 1117469; Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, rhif 5862222)

© 2019 designed by zodshopdesign.co.uk

ThePrincesFoundation web.jpg
UWTSD Logo_web.jpg
SB Black and Purple ACT web.jpg
CCC logo new.jpg
Cynnal Y Cardi logo new.jpg
Arch skills logo.jpg
WG EU logo new.jpg
EAFRD logo new.jpg
Cambrian Mountains logo.jpg
BGH.png

Ymweld a ni

yn Ystrad Fflur

P’un a ydych chi am ddysgu am hanes a straeon yr ardal, archwilio cefn gwlad neu gymryd ennyd i fyfyrio’n dawel a chael ysbrydoliaeth, mae digon i’w wneud!

strata florida ~ ystrad fflur

Ymweld a Ystrad Fflur

P’un a ydych chi am ddysgu am hanes a straeon yr ardal, archwilio cefn gwlad neu gymryd ennyd i fyfyrio’n dawel a chael ysbrydoliaeth, mae digon i’w wneud!

 

Gallwch ymweld â’r abaty ei hun, cerdded o gwmpas Eglwys y Santes Fair a’r fynwent i weld y gofeb i’r bardd, Dafydd ap Gwilym, neu ddilyn y llwybrau troed i goetir hynafol yr Abaty a phorfeydd defaid y mynydd i gyfeiriad y de a’r dwyrain, neu ar hyd yr afon i gyfeiriad y gorllewin. Gall cerddwyr mwy uchelgeisiol, beicwyr a marchogion ddilyn ffordd y goedwigaeth i fyny i’r bryniau neu ymweld â’r ffynnon sanctaidd sydd wedi’i adfer ym Mhantyfedwen.

Oriau agor safle Abaty

Manylion oriau agor, costiau, cyflwysterau fan hyn

Abaty Ystrad Fflur

Safle swynol, llawn atgofion, o arwyddocâd rhyngwladol ym mherfeddwlad Cymru yw Abaty Ystrad Fflur. Roedd y safle, a adwaenwyd yn annwyl fel San Steffan Cymru, yn ei hanterth yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Arferai fod yn ganolfan bwysig i ddiwylliant, crefydd a masnach, gyda’r cysylltiadau’n lledu ymhell ar draws tirwedd Cymru.

Mae modd edmygu mawredd y cerfiadau enfawr sydd wedi goroesi ar y drws gorllewinol hyd heddiw a gellir olrhain cynllun yr eglwys yn glir. Er mawr syndod, mae rhai o’r teils o addurn cyfoethog gwreiddiol yr abaty wedi goroesi mewn un darn. Mae un ohonynt, ‘Y Dyn gyda’r Drych’ yn bortread o fonheddwr canoloesol yn llawn edmygedd ohono’i hun yn y drych! Ewch i’r dudalen Hanes i gael rhagor o wybodaeth.

Caiff adfeilion eglwys a chlwystai mynachlog Sistersaidd Ystrad Fflur eu rheoli gan Cadw ar hyn o bryd. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa, gweithgareddau, siop a lluniaeth ysgafn. Caniatewch oddeutu 1 awr i ymweld. Gellir dod o hyd i fanylion amserau agor, mynediad a chyfleusterau fan hyn

11   /   06   /   2023

Mynwent y Santes Fair

Hwyrach fod mynwent blwyf Santes Fair Ystrad Fflur yn safle sy’n cael ei ymweld hyd yn oed yn fwy na chofeb yr Abaty ei hun. Gwyddwn iddi fodoli mor gynnar ag oddeutu 1535, pan gafodd ei hymweld gan John Leland, hynafiaethwr swyddogol Harri VIII. Nododd ‘the cemetery wherein the country about doth bury is very large and meanly walled with stone. In it be 39 great yew trees.’ Mae’n eithriadol fod gan Abaty Sistersaidd mawr a phwysig fel Ystrad Fflur fynwent seciwlar nesaf at ei eglwys. Dyma un o’r awgrymiadau y gallai’r sylfaen o’r 12fed ganrif fod wedi bod ar safle cynharach.

Mae llyfryn byr sy’n dogfennu canlyniadau’r gwaith maes a wnaed fel rhan o brosiect ymchwil y brifysgol ar gael i’w lawrlwytho o’r fan hon.

 
 
 
 

Teithiau cerdded treftadaeth o gwmpas Ystrad Fflur

Mae tair taith gerdded dreftadaeth o bellteroedd amrywiol o gwmpas ardal Ystrad Fflur.

Llwybr Glan yr Afon – 1.5 filltir/2.5km sy’n cymryd rhyw 45 munud

Llwybr y Coetir – 3.5 milltir /5km sy’n cymryd oddeutu 2 awr

Llwybr y Llechwedd – 1 filltir /1.5km sy’n cymryd oddeutu 20 munud

 

I gael rhagor o wybodaeth am y teithiau cerdded, lawrlwythwch y ddwy daflen pdf fan hyn.

Lleoliad

Saif Ystrad Fflur ar ben dyffryn serth, 1km i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid. Saif y pentref ar lan gogledd-orllewinol Cors Caron, cors mawn a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, ar y B4343 rhwng Pontarfynach a Thregaron wrth y gyffordd gyda’r B4340 i Aberystwyth. Mae’r troad i’r Abaty, ychydig i gyfeiriad y de o’r bont ar draws Afon Teifi sy’n rhoi ei enw hanesyddol i Bontrhydfendigaid, wedi’i nodi gydag arwyddion hamdden brown.

Cod post: SY25 6ES. Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans: SN 7467 6569

 
 

Sut i gyrraedd

Y ffordd hawsaf o gyrraedd Ystrad Fflur yw gyrru i’r safle gan ei fod 1km o’r pentref agosaf. Mae maes parcio'r safle am ddim. Mae’r orsaf drenau agosaf yn Aberystwyth, sydd 15 milltir i ffwrdd o’r Bont. Mae bysus yn rhedeg o orsaf drenau Aberystwyth i’r Bont drwy’r dydd ac mae’r daith yn cymryd rhyw 45 munud. Mae safle tacsis yn yr orsaf drenau hefyd os oes gwell gennych hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am gludiant yn y sir, ewch i traveline neu lawrlwythwch ap Traveline Cymru.

Cyfleusterau lleol

 

Ym mhentref Pontrhydfendigaid, mae dwy dafarn a siop leol brysur. Yn nhref Tregaron, 6 milltir i ffwrdd, mae nifer o siopau, tafarndai, bwytai, peiriannau arian a siopau cludfwyd. Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn cysylltu Pontrhydfendigaid a Thregaron ac mae gwasanaeth tacsi lleol ar gael hefyd.

Tirweddau Hanesyddol a Naturiol i ymweld â stori Ystrad Fflur

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron a gaiff ei rhedeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn croesawu ymwelwyr ac mae ganddi nifer o deithiau cerdded ymroddedig gyda phanelau gwybodaeth llawn.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth hefyd ar wefan 

I’r gogledd o Ystrad Fflur, ac yn un o’i faenorau ar un tro, mae gweddillion tirwedd ddarluniaidd Hafod sy’n enwog ar raddfa ryngwladol, a grëwyd yn ystod cyfnod Napoleon gan Thomas Johnes. Mae Ymddiriedolaeth Hafod, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, yn rheoli’r dirwedd hon ac mae ganddi ganolfan ymwelwyr a sawl taith gerdded brydferth. www.hafod.org

Rhan fawr o dirwedd ddarluniaidd yr Hafod oedd gwesty’r Hafod Arms a adeiladwyd ym Mhontarfynach gan Thomas Johnes i letya’r nifer fawr o ymwelwyr i’w ystâd. Safai hwn ar yr hen ffordd dyrpeg o Aberystwyth i Raeadr gan basio trwy Gwmystwyth a’i fwyngloddiau plwm ac arian enfawr, a arferai fod yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Ehangwyd profiad Darluniaidd Johnes gan raeadrau syfrdanol Pontarfynach y mae dal modd ymweld â nhw heddiw. www.devilsbridgefalls.co.uk

Caiff rhannau mawr o’r ardal eu gorchuddio gan goetir wedi’u plannu y mae Llywodraeth Cymru’n berchen arnynt a chânt eu gweinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n annog mynediad i amwynder. Mae gan floc coedwig Gogledd Tywi uwchlaw Ystrad Fflur sawl trac sy’n addas i gerdded, beicio a marchogaeth arnynt. Mae’r brif ffordd fynediad i hyn yn rhedeg heibio i Ystrad Fflur.

Mae sefydliad elusennol Ymddiriedolaeth Afonydd Teifi, yn gofalu am hanes naturiol Afon Teifi, sy’n llifo trwy’r Abaty, ac mae gan ei gwefan daith gerdded o gwmpas y Pyllau Teifi hanesyddol yr arferai’r Abaty berchen arnynt ac a oedd yn cael eu stocio gyda brithyllod a llyswennod i’w bwyta ganddynt. www.teifiriverstrust.com   

Saif ardal cwm Elan i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o Ystrad Fflur ac arferai llawer o’i dirwedd fod yn eiddo i’r Abaty. Fe’i rheolir gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan ac mae gan ei gwefan ganllaw da iawn i’r holl bethau i’w gweld yno ac i ymweld â nhw. www.elanvalley.org.uk

Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn sefydliad sy’n ymwneud â diogelu a hyrwyddo tirweddau ucheldir yr ardal ac mae ganddi wefan ddefnyddiol gyda’i hadran teithiau cerdded sy’n cynnwys rhestr sylfaenol o fapiau a chyhoeddiadau. Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria hefyd yn trefnu nifer o deithiau cerdded wedi’u tywys trwy’r flwyddyn ac argymhellir eich bod yn ymaelodi! www.cambrian-mountains.co.uk

Er nad yw Fferm Denmarc yn uniongyrchol gysylltiedig â stori Ystrad Fflur, mae’n ffocws pwysig i ddeall a diogelu’r amgylchedd naturiol yn y rhan hon o Gymru. Mae’n cynnal digwyddiadau, cyrsiau ac mae modd i bawb ymweld ag ef. www.denmarkfarm.org.uk

Mannau hanesyddol eraill i

ymweld â nhw

Yn wreiddiol, Pontrhydfendigaid (y ‘bont wrth y rhyd fendigaid’) oedd y pentref a grëwyd gan Abaty Ystrad Fflur i letya’r gweithwyr ar ei diroedd gerllaw. Safai hwn i ogledd pont yr afon rhwng y ddwy dafarn, y Llew Coch a Du sy’n parhau â thraddodiad mawr yr Abaty i ddarparu lletygarwch i deithwyr. Ehangodd y pentref yn y 19eg ganrif yn ystod twf mewn mwyngloddio plwm ac mae llawer o fythynnod y mwyngloddwyr yn parhau i fodoli. Ceir hefyd sawl capel mawr a oedd yn bwysig, ac sy’n parhau i fod yn bwysig i fywyd y cymunedau hynny. Nid yw’r wefan yn cynnwys unrhyw fanylion o’r hanes hwn, ond mae’r pentref serch hynny, yn werth cerdded o’i gwmpas.

Mae Tregaron yn dref farchnad hanesyddol i gyfeiriad y de o Ystrad Fflur ac yn yr Oesoedd Canol, hwn oedd canolfan Arglwyddiaeth Caron. Saif y craidd hanesyddol o gwmpas y sgwâr o flaen Gwesty’r Talbot, gyda’i eglwys blwyf o’r 13eg ganrif ar yr ymyl ddeheuol. Mae’r Talbot a’r eglwys yn adeiladau hanesyddol y mae’n werth ymweld â nhw. Ehangodd y dref, fel Pontrhydfendigaid, yn y 19eg ganrif ac mae’n dathlu ei chysylltiad hir â mwyngloddio hynafol yng Nghanolfan Aur Rhiannon, lle gellir gweld gemwaith modern ochr yn ochr ag arddangosfa o gelfyddyd Geltaidd sy’n ffurfio’r ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith Rhiannon ei hun.

Mae Llanddewi Brefi yn bentref prydferth gydag eglwys wych yn y canol. Mae’r strwythur presennol, sy’n dyddio i’r 12fed ganrif, ar safle lle sy’n enwog yn stori nawdd sant Cymru, Dewi Sant. Mae’r eglwys, a arferai fod yn fynachlog Geltaidd gynnar mwy na thebyg, yn cynnwys sawl cofeb sy’n dyddio i gyfnod cyn-Normanaidd Cristnogaeth (oddeutu 600-1100 O.C). http://llanddewibrefi.org

Mae Llanbedr Pont Steffan yn dref oesoedd canol hanesyddol sy’n cynnwys heddiw un o gampysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd y campws hwn fel sefydliad hynaf addysg uwch yng Nghymru, ar ôl iddo gael ei sefydlu ym 1822. Mae ei Adeilad Dewi Sant yn adeilad rhestredig Gradd I ac mae ganddo lawer o nodweddion cain: argymhellir taith gerdded o gwmpas ei dir ac i mewn i’w bedrongl hanesyddol. Ei gysylltiad ag Ystrad Fflur yw bod ei Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg wedi dechrau Prosiect presennol Ystrad Fflur. Yn Llanbedr Pont Steffan hefyd, mae’r Welsh Quilt Centre lle mae modd gweld casgliad godidog o gwiltiau hanesyddol, a gasglwyd gan y Jen Jones rhyfeddol, ochr yn ochr ag arddangosfeydd eraill. http://www.lampeter-tc.gov.uk/

Mae eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, ger Aberaeron ar arfordir Ceredigion yn em bensaernïol gan John Nash, y pensaer cyfnod Rhaglywiaeth enwog. Mae ganddo dir a pharcdir helaeth, wedi’u hadnewyddu gyda theithiau cerdded coetir prydferth ar hyd Afon Aeron. www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron

Eiddo arall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn nyffryn Afon Cothi yw Mwyngloddiau Aur Dolaucothi sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Rhufeinig. Cloddiwyd aur o’r fan hon hefyd yn ystod adeg Abaty Ystrad Fflur ac ymlaen i’r 20fed ganrif, a heddiw mae gwaith dan y ddaear yn gwneud ymweliad rhyfeddol i’r teulu oll. https://www.nationaltrust.org.uk/dolaucothi-gold-mines

Mae Aberaeron yn dref glan môr brydferth ar arfordir Bae Ceredigion a grëwyd i ddarparu harbwr diogel i longau arfordirol ym 1807. O ran pensaernïaeth, mae ganddi uniondeb a ffurfiwyd gan sawl stryd o dai teras y cyfnod Rhaglywiaeth, y mae llawer ohonynt wedi’u peintio yn y lliwiau oedd yn boblogaidd ar y pryd. Mae’r lleoliad cyfan o gwmpas yr harbwr, sydd bellach yn farina gan mwyaf, yn drawiadol. Cynhelir sawl digwyddiad yn y dref ac mae’n enwog am ei lletygarwch a’i bwyd da. https://www.aberaeron.info/cy/croeso-i-aberaeron

I gyfeiriad y gogledd o Ystrad Fflur, ac yn gysylltiedig â’i ymwneud hir â mwyngloddio, mae safle Mwyngloddiau Arian-Plwm Llywernog, sydd bellach ar agor i’r cyhoedd fel y Silver Mountain Experience. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau tanddaearol. https://www.silvermountainexperience.co.uk/

I’r sawl a chanddynt ddiddordeb mewn adeiladau hanesyddol, mae hen eglwysi plwyf y rhanbarth yn werth ymweld â nhw. Mae llawer wedi’u codi ar safleoedd llawer hŷn o gyfnod cyn-Normanaidd Cristnogaeth Geltaidd. Ceir hefyd nifer fawr o gapeli Anghydffurfiol, rhai ohonynt gyda rhannau pwysig i’w chwarae yn stori genedlaethol Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth sylfaenol am bob un ohonynt ar wefan Llwybr Ffydd Ceredigion. Nodir yn arbennig Soar-y-Mynydd, Llangeitho a Llanddewi Brefi.

Beth i wneud yng Ngheredigion

Mae Ystrad Fflur yn sir Ceredigion, sydd ag un o rannau mwyaf amrywiol Llwybr Arfordir Cymru, ac mae llwybrau troed ar gael i’w mwynhau ar hyd dyffrynnoedd yr afonydd, coetiroedd a chefnau rhostiroedd. Ceir llwybrau tref niferus sy’n dilyn yn ôl troed beirdd, arloeswyr a phererinion, o Dylan Thomas i Dewi Sant. Gallwch dreulio ychydig oriau yn pysgota ar lannau afon neu lyn, neu o gwch gydag arbenigwr lleol sy’n gwybod ble a phryd i ddod o hyd i fecryll, crancod a physgod eraill.

 

Ewch i ferlota, cael diwrnod allan yn y rasys neu ewch i ŵyl geffylau, carnifal tref neu dwrnamaint rygbi 7 bob ochr. Dewch â beic neu llogwch un i fwynhau’r llwybrau beicio wedi’u cyfeirbwyntio neu beth am fynd i’r afael â’r llwybrau beicio mynydd ym Mwlch Nant yr Arian. Mwynhewch chwaraeon dŵr gyda’ch offer eich hun neu offer wedi’i logi’n lleol, neu gadewch i’r arbenigwyr ddangos i chi sut i wneud y mwyaf o’n tonnau, ein dyfroedd gwylltion a’n tirwedd.

 

Trefnwch bicnic, ewch allan ar hyd ein lonydd gwledig i ddarganfod y bobl a’r lleoedd sy’n gwneud stori Ceredigion yn chwedl o arwyr, gwrthryfelwyr, tywysogion, menter a diwydiant a ddethlir. Ewch am dro i Gastell Aberystwyth, Llanerchaeron, sef eiddo lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu edrychwch yn Amgueddfa Ceredigion. Cymrwch lymaid ar wal yr harbwr yn nhref Sioraidd Aberaeron neu gwyliwch ysgol o ddolffiniaid  wrth i chi fwyta’ch pysgod a sglodion wrth ochr y cei yng Ngheinewydd.

 

Darganfyddwch fywyd gwyllt Ceredigion yn eu cynefinoedd naturiol - mae coetir, gwlyptir, gwarchodfeydd natur mynydd a morol i’w harchwilio, teithiau cerdded dan arweiniad, gweithgareddau coetir a thraeth a theithiau mewn trenau a chychod yn gallu dangos i chi’r gorau sydd gan arfordir a chefn gwlad Ceredigion.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan yr ardal leol i’w chynnig, ewch i

www.discoverceredigion.wales

www.pumlumon.org.uk

www.visitwales.com

www.visitpowys.co.uk

www.discovercarmarthenshire.com

www.walkingbritain.co.uk/map-Ceredigion

Llety

Hunanarlwyo

Red Kite Cottages
Ty Uchaf, Ffair Rhos, Ceredigion, SY25 6BP, Cymru, Y Deyrnas Unedig
Ebost: chris@redkitecottages.com
Gwenfan: www.redkitecottages.com
Ffôn: ++44(0)1974 831 540, symudol: ++44(0)75277478

Pentrebach
Blaenpennal,
Ceredigion
Gwenfan: www.pentrebach.org
Ffônl: 01974 251676

 

Parc Teifi
Pontrhydfendigaid
Ystrad Meurig
Ceredigion
SY25 6BH
Gwenfan: www.parcteifi.co.uk/index.html
Ffôn: 01974 831730

Bryn-Y-Gors Holiday Park
Pontrhydfenigaid., Pontrhydfendigaid, Ceredigion SY25 6EL
Gwenfan: www.bryn-y-gors.co.uk/
Ffôn: 01974 831675

Tanyresgair Cottages

Tanyresgair, Bontnewydd, Aberystwyth, SY23 4JG

 www.tanyresgair.co.uk

cottages@tanyresgair.co.uk

01974 251517

 

 

 

Gwestai

Y Talbot, TregaronGwesty cysurus gyda 12 ystafell wely, y mae pedair ohonynt

wedi’u hadnewyddu, a’r gweddill yn cael eu hadnewyddu i safon tafarn pedair seren.

Mae’r costau’n amrywio o £70.00 am ystafell dau wely sengl neu wely dwbl safonol gan gynnwys

brecwast i £90.00 am ein hystafelloedd moethus newydd.


Y Talbot, Tregaron, Ceredigion, SY25 6JL
Gwenfan:www.ytalbot.com
Ebost: info@ytalbot.com
Ffôn: +44 (0)1974 298208

 

 

 

Gwely a Brecwast

Maesglas Uchaf
Angela and Peter White
Maesglas Uchaf
Ysbyty Ystwyth
Ystrad Meurig
Ceredigion
SY25 6DD
Gwenfan: www.maesglasbandb.co.uk
Ebost: info@maesglasbandb.co.uk
Ffôn: 01974 282 571

Hafan Ynys
Ynys Y Berfedd,
Swyddffynnon,
Ystrad Meurig,
Ceredigion,
SY25 6AW
Gwefan: http://www.hafanynys.co.uk
Ebost: jillleach47@gmail.com
Ffôn: (Home) 01974 831 602, (symudol) 07817994046

 

 

Am fwy o lefydd i aros ewch i’r wefan Darganfod Ceredigion www.discoverceredigion.co.uk